Dyddiad:
English
Cartref
Safleoedd Ysgolion
Dysgu
Dysgu OLD
Cymorth Llywodraethwr
Rydych chi yma:
AMDRO
>
Dysgu
>
Community Focused Schools
>
ESDGC
>
Masnach Deg
>
Newyddion
AMDRO
Dysgu
Community Focused Schools
ESDGC
Masnach Deg
Newyddion
Newyddion
Cylchllythyron Masnach Deg
Masnach Deg 2012.doc
Pythefnos Masnach Deg - Ysgol Gynradd Lacharn
Ar ddechrau Pythefnos Masnach Deg ar fore braf o wanwyn yn Ysgol Gynradd Lacharn, daeth y disgyblion, y staff a chynrychiolwyr cymunedol ynghyd i ddathlu bod yr ysgol wedi ennill statws Masnach Deg - y 500fed Ysgol Masnach Deg yn y Deyrnas Unedig. Cafodd gwesteion eu croesawu i'r ysgol gan Nia Ward, y Pennaeth. Mewn gwasanaeth ysgol arbennig, disgrifiodd disgyblion y gwaith roeddent wedi ei wneud er mwyn ennill statws Masnach Deg. Anfonodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru neges bersonol i longyfarch yr ysgol. Cafodd ei gynrychioli gan John Griffiths, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth y Cynulliad. Mae Mr Griffiths yn gefnogwr brwd o'r Fenter Masnach Deg ac yn ddiweddar, aeth i ymweld â phrosiectau Masnach Deg yn Uganda. Cafodd y staff a'r disgyblion eu llongyfarch am eu gwaith caled a'u llwyddiant gan Mr Griffiths a chyflwynodd y faner Masnach Deg i'r ysgol. Trefnodd y Sefydliad Masnach Deg bod Kwame Benson, Llywydd Ffermwyr Masnach Deg yn Ne Affrica yn dod i gyfarfod â'r plant. Disgrifiodd pa mor bwysig roedd Masnach Deg i'w ran ef o'r byd a'r gwahaniaeth mawr roedd Masnach Deg yn ei wneud. Roedd Jane Tremlett, y Cynghorydd lleol yn hynod o bles â chyflwyniad y disgyblion a theimlodd ei bod hi, yr athrawon a'r gymuned ehangach wedi dysgu llawer iawn o'r gwaith roedd y bobl ifanc wedi ei wneud. Ar ôl y gwasanaeth, bu'r disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiwn fideo-gynadledda gyda phlant mewn ysgol a ariennir gan Fasnach Deg yn Uganda. Roedd plant o'r ddwy wlad yn gallu holi ei gilydd ynghylch eu bywydau ac roedd yr ymatebion gan y plant o Uganda yn agoriad llygad gan wneud i blant Ysgol Lacharn werthfawrogi pwysigrwydd cefnogi achos mor deilwng â Masnach Deg hyd yn oed yn fwy.
Dathlu baner gyntaf Masnach Deg Sir Gâr yn Ysgol Llanddarog
Cylchllythyron Masnach Deg
Pythefnos Masnach Deg yn Sir Gâr 2011.doc
Sign In