Masnach Deg
CYSTADLEUAETH FARDDONIAETH MASNACH DEG DIVINE/CYMORTH CRISTNOGOL
Fy Siop Siocled
Dychmygwch berchen siop siocled! Fy Siop Siocled yw teitl Cystadleuaeth Farddoniaeth Divine/Cymorth Cristnogol eleni. Mae’r gystadleuaeth wedi symud i dymor y Gwanwyn a gall athrawon sy’n dathlu Penwythnos MD fanteisio ar waith llythrennedd! Eleni, am y tro cyntaf, bydd cyfle i gystadlu trwy gyfrwng y Gymraeg. Y beirniad fydd Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru. Categorïau’r gystadleuaeth Gymraeg yw 7-11 a 12-16oed.
Gweler manylion pellach ar y dogfennau uchod ac ar ein gwefannau cyn bo hir, ble ceir adnoddau ar gyfer athrawon hefyd - lincs uchod.
Cymorth Cristnogol Divine Chocolate
Byddai’n wych gweld lot o ddisgyblion o Gymru yn cystadlu eleni, felly pasiwch y neges ymlaen os gwelwch yn dda!
Gweithdy Masnach Deg
: Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Sesiwn Tri – 16.00 – 12fed Mehefin 2012
Gwirio eich bod yn barod i wneud cais am faner Masnach Deg
Rhoi eich tystiolaeth ar-lein
Dathlu eich llwyddiant
Sesiwn Dau – 16.00 – 21ain Chwefror 2012
Astudiaethau achos o ysgolion 
Llunio eich portffolio
Rhannu arferion da
Gwirio eich cynnydd
Sesiwn Un – 16.00 – 18fed Ionawr 2012
Beth yw Masnach Deg?
Pa fudd gaiff ei ysgol o Fasnach Deg?
Mynd ar-lein i gofrestru ar y rhaglen
Pum elfen y rhaglen Masnach Deg
Llunio cynllun gweithredu
Pythefnos Masnach Deg - 28ain Chwefror - 13eg Mawrth 2011

Faner gyntaf Masnach Deg yn Sir Gâr - Ysgol Llanddarog
Cofrestr ar lein http://www.fairtrade.org.uk/schools/
PythefnosMasnach Deg yn Sir Gâr - Cylch llythyr (Dwyieithog)
Pythefnos Masnach Deg yn Sir Gâr 2011.doc
Ysgolion Sir Gâr gyda Baner Masnach Deg
Ysgol Llanddarog Ysgol Dyffryn Tâf Ysgol Iau Llangennech
Ysgol Talacharn Canolfan Ddydd Rhyd-y-gors
I fod yn Ysgol Fasnach Deg mae angen ichi gyrraedd 5 nod
Sefydlu Grŵp Llywio Ysgol Fasnach Deg (gydag o leiaf hanner y grŵp yn ddisgyblion) sy'n cyfarfod o leiaf unwaith y tymor.
Llunio a mabwysiadu Polisi Masnach Deg y mae'r Bwrdd Llywodraethwyr yn ei gefnogi ac y mae'r Pennaeth wedi ei lofnodi.
Defnyddio a gwerthu nwyddau Masnach Deg gymaint â phosibl.
Dysgu am Fasnach Deg mewn o leiaf dri phwnc mewn dau grŵp blwyddyn.
Cymryd camau i hybu Masnach Deg o leiaf unwaith y tymor yn yr ysgol ac unwaith y flwyddyn yn y gymuned.
Safle we Masnach Deg Cymru Clicwch yma