Pontio

Emyr Wynne JonesCroeso i Adran Bontio'r mewnrhwyd. Gobeithio y bydd y tudalennau yma yn ddefnyddiol i chi. Os oes gennych awgrymiadau neu ddeunydd ar gyfer y safle yma cysylltwch â mi yng Nghanolfan Griffith Jones, San Clêr, Sir Gaerfyrddin ar 01994 231866 neu drwy E-bost ewjones@sirgar.gov.uk.

Emyr Wynne Jones, Swyddog Gwella Ysgolion

 

Mae'r ddogfen 'Y Wlad sy'n Dysgu' yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol i wella'r pontio rhwng y cynradd a'r uwchradd mewn ffordd fydd:

a) yn cyfrannu'n sylweddol at godi safonau plant rhwng 11 a 14 oed.

b) yn atgyfnerthu'r ymgais i ymestyn ymhellach gwerth ychwanegol safonau gwaith plant rhwng 7 a 11 oed.

Mae disgwyl i Gyrff Llywodraethol ysgolion uwchradd a chynradd gydweithio er mwyn cael Cynllun Pontio mewn lle erbyn Medi 2007 - un cynllun i bob teulu o ysgolion. Dylai'r broses gynnwys ymgynghori â disgyblion a rhieni.

Pwrpas yr adran hyn o 'Amdro' yw:

1. I rannu'r newyddion diweddaraf yngln â phontio..
2. I gynnig copïau o ddogfennau diweddar all gael eu llwytho i lawr, neu gysylltiadau gyda safleoedd perthnasol ar y we.
3. I gynnig deunydd fydd yn cynnig arweiniad i ysgolion.
4. I enghreifftio a rhannu arfer dda sydd eisoes yn bodoli o fewn teuluoedd o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin.

Search

Pynciau eDdiogelwch FfHW TGCh Eco Sgolion Ysgolion Iach Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar Cynorthwy-ydd Dysgu