ACTS
Beth yw ACTS?ACTS - Rhoi Sgiliau Meddwl Plant ar Waith(Activating Children's Thinking Skills). Gweithgaredd i datblygu a threialu methodoleg ar gyfer gwella sgiliau meddwl. Beth yw ei bwrpas?Seiliwyd ACTS ar y syniad nad ar hap y mae plentyn yn datblygu agweddau pwysig o'i addysg, megis: - dysgu'n ystyrlon
- meddwl yn hyblyg
- ffurfio barn resymol
Ffyrdd o feddwl yw rhain ac mae'n rhaid inni fod yn glir ynglyn â'r hyn a olygwn wrth sôn amdanynt a mynd i'r afael â'r dasg o'u dysgu yn benodol. Mae ACTS felly'n dwyn broses o feddwl i'r amlwg. Datblygwyd y gwaith yn wreiddiol yng Ngogledd Iwerddon dan arweiniad Yr Athro Carol McGuinness, Prifysgol Queen's, Belfast - ymchwilydd blaenllaw sy'n addysgu sgiliau meddwl trwy ddulliau 'hydreiddio'. |  |
Mae gwerthusiadau'r athrawon o effeithiau ACTS ar y disgyblion a'u hunain yn gadarnhaol iawn. Er enghraifft, canfyddwyd manteision i brosesau meddwl y disgyblion. Cyfeiriwyd at gynnydd ym mhwerau rhesymu a chreadigrwydd y plant:
- eu gallu i egluro'u prosesau meddwl
- i weld cysylltiadau rhwng y gwahanol feysydd pynciol
- i fod yn fwy strwythuredig ac eglur eu hymagwedd at feddwl