Croeso i'r Uned Cynnal Llywodraethwyr
Mae Uned Cynnal Llywodraethwyr Sir Gâr yn darparu gwasanaethau i lywodraethwyr ysgolion ar draws y sir. Ar y safle hon, cewch wybodaeth am ein hadran ac hefyd gysylltiadau i adnoddau defnyddiol.
Mae'r Uned Cynnal Llywodraethwyr wedi ei lleoli ym Mharc Dewi Sant ar gyrion tre Caerfyrddin. Mae dros 1600 o lywodraethwyr ysgolion wedi eu gwasgaru ymhlith 131 o ysgolion led led y sir, ac mae'r uned yma yn darparu rôl bwysig drwy gyd-drefnu'r gweithgareddau a'r dyletswyddau sydd i'w cyflawni gan y llywodraethwyr hyn. Mae Cynnal Llywodraethwyr yn rhan allweddol o Wasanaeth Cynnal Ysgolion y Sir a ddaw o dan ymbarel yr Adran Addysg a Phlant. Rheolwr yr uned yw Mr. Ken Davies, gyda chymorth oddiwrth Jane Rees, Rhianydd Jones-Evans, Anwen Fisher a Ian Rees. Os fydd gennych gwestiynau ar unrhyw destun, cofiwch gysylltu â ni: Uned Cynnal Llywodraethwyr, Yr Adran Addysg a Phlant, Adeilad 2, Parc Dewi Sant, Heol Ffynonjob, Carerfyrddin SA31 3HB . | 
Ken Davies Rheolwr yr Uned 01267 246446 KenDDavies@sirgar.gov.uk |
Aelodau'r Tîm