Croeso i Ysgol Gynradd Brynaman

 

Ysgol Brynaman

'Byw i'r Presennol ac Edrych i'r Dyfodol'

Hoffwn estyn croeso i chi fel rhieni i ymuno yn holl weithgareddau'r Ysgol, a 'rydym yn edrych ymlaen i bartneriaeth hapus, llwyddiannus a ffrwythlon yn ystod addysg gynradd eich plentyn. Gobeithiwn y byddwch yn gweld y safle hwn yn ddiddorol ac hefyd yn rhoi gwybodaeth am yr ysgol.

Mae'r Ysgol yn rhan bwysig o'r gymuned a'r pentref a gobeithiwn y bydd pob plentyn yn gwerthfawrogi hyn ac yn tyfu i fod yn aelod bywiog o'r gymuned ac yn parchu'r amgylchfyd.
Rhaid i bob disgybl fod yn hapus o fewn yr ysgol er mwyn manteisio a datblygu yn aelod pwysig o'r gymdeithas. Mae'r ysgol mewn bodolaeth i helpu plant i ddatblygu medr a gwybodaeth angenrheidiol, i fod yn aelodau gofalus, defnyddiol tu fewn i amgylchfyd hapus, sefydlog, sy'n newid yn aml.

Nick Jones, Pennaeth


Yn ein hysgol ein nôd yw cynnig amgylchedd sy'n gofalu am eich plentyn. Gwnawn ein gorau glas i gynnig ystod eang o gyfleon addysgu cytbwys i bob plentyn i'w galluogi i dyfu yn bobol annibynol a chyfrifol.


 

Datblygwyd y tudalennau yma gan yr ysgol. Os oes gennych unrhyw sylwadau ynglŷn â'r cynnwys cysylltwch â'r pennaeth os gwelwch yn dda.

Search

Eco Sgolion Buddsoddwyr mewn Pobl Marc Safon