Croeso i Ysgol Ponthenri

Ponthenri School

Croeso i'n gwefan ysgol. Ar ein gwefan cewch llawer o wybodaeth. Defnyddiwch y botymau llywio wrth ochr y dudalen i grwydro.

Cofiwch edrych ar ein folder Newyddion.

Gobeithio cewch fwynhad, felly a wnewch chi ymweld tro ar ol tro.


Ein Hysgol

School Badge

Lleolir yr ysgol ym mhentref Ponthenri. Derbyniwyd plant rhwng 3 1/2 hyd at 11 mlwydd oed, daw mwyafrif helaeth o'r disgyblion o'r pentref. Ar gyfertaledd mae 55 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol. Derbyn plant:

Trefniadau Derbyn
4ydd PenblwyddCychwyn
Medi - RhagfyrMedi
Ionawr - MawrthIonawr
Ebrill - AwstEbrill

Ysgol 'Categori A' yw Ysgol Ponthenri yn unol a pholisi iaith Sir Gaerfyrddin. Y Gymraeg fydd prif gyfrwng bywyd a gwaith hyd at saith oed er mwyn i'r plant gael sylfaen gadarn yn yr Iaith. Cymraeg fydd prif gyfrwng bywyd a gwaith yn yr adrannau Iau, cyflwynwyd Saesneg wrth i blant drosglwyddo o'r adran Fabanod i'r adran Iau er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyfle i ddatblygu yn gwbl ddwyieithog erbyn trosglwyddo i'r Ysgolion Cyfun lleol sef Ysgol Maes yr Yrfa neu'r Gwendraeth.

Mae tim o staff cyd-wybodol yn gweithio'n effeithiol i sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr addysg orau bosib.

Fel ysgol rydym wedi ymrwymo i adeiladu cymuned gynhwysol, hawdd yw derbyn plant mewn cadair olwyn ac mae toiledau anabl i gael ar safle'r ysgol.

Ein nod ydy i fod yn hapus a'n ddiogel wrth i ni ddysgu gyda'n gilydd.


Nod ac Amcanion yr Ysgol:

  • creu awyrgylch a naws hapus;
  • ceisio creu agwedd gadarnhaol tuag at ymddygiad da;
  • rhoi digon o gyfle i fagu hunan ddisgyblaeth;
  • cyflwyno'r disgybl i nifer helaeth o wahanol wybodaethau, dealltwriaeth a medrau;
  • datblygu sgiliau a phrofiadau yr unigolyn o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol;
  • anelu at alluogi plant i gyflawni eu potensial gorau y gallant ym mhob agwedd;
  • datblygu iaith llafar, ysgrifenedig a sgiliau TGCh yn ogystal a gweithgareddau ymarferol sy'n arwain, annog ac ysgogi disgyblion mewn ffordd sy'n ennyn eu diddordeb ac yn meithrin eu brwdfrydedd meddyliol;
  • sicrhau bod ystrwythder yn natblygiad y plentyn;
  • anelu at ddwyieithrwydd, Y Gymraeg fydd prif gyfrwng y gwersi hyd saith oed. Adran Iau dwyieithrwydd;
  • cynorthwyo'r disgybl i fanteisio'n llawn ar y broses o dyfu i fynu i ddatblygu nodweddion ac agweddau personol pendant ac i osod sgiliau cadarn ar gyfer y dyfodol;
  • cadw cysylltiad glos gyda rhieni am ddatblygiad ei phlentyn (plant) gan obeithio datblygu cefnogaeth cartref.

Cynllun drws agored yw'n polisi ac mae'r pennaeth, Mrs Pat Rowlands y staff yn ogystal a'r Corff Llywodraethol o hyd yn barod i drafod unrhyw fater yng nghlyn a pholisiau a threfniadaeth. Croesawn yn fawr iawn unrhyw sylwadau yn ymwneud ac addysg eich plentyn.


 

Datblygwyd y tudalennau yma gan yr ysgol. Os oes gennych unrhyw sylwadau ynglŷn â'r cynnwys cysylltwch â'r pennaeth os gwelwch yn dda.

Search