Cynhwysiant
Croeso i’r Adran Gynhwysiant
Dysgu cynhwysol yw’r arfer orau mewn addysgu a dysgu.
Mae ymagwedd ysgol i addysgu a dysgu yn cynnwys:
- asesiad cywir o gryfderau ac anghenion
- cynllunio effeithiol i adeiladu ar gryfderau a mynd i'r afael a meysydd o angen
- Mabwysiadu dulliau addysgol i optimeiddio dysgu unigol
- Cynnwys plant wrth osod eu nodau dysgu a gwerthuso eu cynnydd tuag at dargedau a gytunwyd
- Ymgysylltu â rhieni i'w hysbysu am gynnydd eu plant ac i’w cynnwys wrth gefnogi dysgu eu plant
- Gwerthuso cynnydd plant unigol a chynnydd grwpiau a dosbarthiadau
- Mireinio'r dull o addysgu a dysgu yng ngoleuni'r gwerthusiad
- Cadw cofnodion systematig i roi gwybod am gynnydd ac i alluogi ymarfer myfyriol.
Gyda'i gilydd, mae pob un o'r uchod yn berthnasol i ymagwedd effeithiol ysgol gyfan i weithio gyda phob plentyn.