Cartref
Safleoedd Ysgolion
Dysgu
Dysgu OLD
Cymorth Llywodraethwr
Sgiliau Rhif - Rhifedd 
Cyn diwedd tymor y Gwanwyn bydd pob ysgol yn derbyn y drydedd fersiwn o Gryno Ddisg 1.

Bydd y Gryno Ddisg yn cynnwys yr holl adnoddau sydd ar y gryno ddisg gyfredol ynghyd a’r dogfennau ychwanegol canlynol:

  • Rhifedd ar draws y Cwricwlwm
    • Awdit Rhifedd
    • Hunan Werthusiad Rhifedd
    • Canllawiau ar gyfer ysgrifennu polisi Rhifedd ar draws y Cwricwlwm gan gynnwys Tudalen Cynnwys, Datganiad Cenhadaeth, Rhesymeg, Diffinio Rhifedd, Llinell Amser, Cyfrifioldebau, Pa gymorth galla'i ddisgwyl ei gael, Sicrhau y defnyddir Dull Cyson , Cyfraniad y rhieni a llywodraethwyr ac Atodiadau
    • Templed ar gyfer Portffolio Rhifedd ar draws y cwricwlwm
  • Esiampl o broffil dysgwr - lefel 3
  • Pwerbwynt yn goleubwyntio deilliannau a lefelau
  • Llyfrynnau ar gyfer Recordio Cynnydd Disgybl mewn Mathemateg
  • Posteri Lefel
  • Overcoming Barriers to move up a level in Mathematics - ar gael yn Saesneg yn unig am y tro
  • Llyfrynnau i helpu rhieni i gefnogi eu plant gyda Mathemateg
  • Llwyddiant mewn Mathemateg SCYA wedi ei ail osod yn dilyn gofynion y broses profi ym Mis Mai
  • A mwy!!!




Yn 2008, cyhoeddodd Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru y Fframwaith Sgiliau ar gyfer dysgwyr 3-19 oed yng Nghymru. Mae'r fframwaith yn rhoi arweiniad ynghylch sut i ddatblygu dilyniant a pharhad ar draws y cwricwlwm a rhwng cyfnodau allweddol mewn sgiliau meddwl, cyfathrebu, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) a rhif. Bwriedir i'r adran ar ddatblygu rhif helpu athrawon i wella sgiliau rhifedd disgyblion ar draws yr holl feysydd pynciol.

(Gwella rhifedd yn CA2 a CA3, Estyn, Ebrill 2010)

Sign In