Cartref
Safleoedd Ysgolion
Dysgu
Cymorth Llywodraethwr
Sut mae ailosod cyfrinair  
Sut mae ailosod cyfrinair
I ailosod y cyfrinair ar gyfer cyfrif mewn JIT neu J2E, cymerwch y camau canlynol:

1. Mewngofnodwch fel Athro/Athrawes
2. Cliciwch ar eich enw yn y gornel uchaf ar ochr chwith y sgrîn
3. Dewiswch 'My settings...' o'r gwymplen
4. Dewiswch y tab 'Users' (yn 'Firefox' bydd yn rhaid ichi glicio ar y saeth ar y dde yn ymyl y tabiau i sgrolio i'r dde i ddod o hyd i'r tab 'Users')
5. Sgroliwch i lawr y rhestr o ddefnyddwyr i ddod o hyd i'r cyfrif perthnasol
6. Cliciwch ar enw'r cyfrif
7. Cliciwch ar y botwm 'Reset Password'
8. Aildeipiwch eich cyfrinair i gadarnhau'r newid

Bydd y cyfrinair ar gyfer y cyfrif a ddewisir wedi cael ei ailosod i'r rhagosodiad 'password'. Rydym yn argymell bod y defnyddiwr yn mewngofnodi i J2E cyn gynted â phosibl ar ôl hynny, er mwyn newid y cyfrinair i rywbeth sy'n gyfrinachol iddo ef/iddi hi
Sign In